Prynodd fy Mam-gu a fy Nhad-cu fferm ‘Aberceiro’ yn ôl yn yr 1970au. Roedd yn llecyn heulog braf gydag erwau o dir ffrwythlon, gan feddwl y byddai’n lle da i adeiladu. Bu farw fy Mam-gu (Peggy) pan oeddwn yn 7 oed, ac fe basiodd yr adeilad ymlaen i fy mam er mwyn iddi hi adeiladu cartref i’n teulu ar wahân i westy prysur ‘Y Marine’, Aberystwyth yr oedd fy rhieni yn berchen arno a lle’r oeddem yn byw.
Ar ôl blynyddoedd o feddwl, penderfynodd Mam, Nerys adeiladu gwesty gwledig 11 ystafell wely yn y fan lle safodd yr hen adeiladau fferm, er mwyn manteisio i’r eithaf ar y lleoliad canolog a’r llecyn dymunol. Agorodd y gwesty ym mis Mawrth 2000.
Rhoddwyd yr enw Llety Ceiro ar y Gwesty i gyfleu man aros ac i gyfeirio at nant Ceiro sy’n llifo gerllaw’r tir.
Ym mis Mawrth 2014, trosglwyddwyd Llety Ceiro i mi a fy ngŵr. Erbyn hyn, roeddwn wedi derbyn na fyddwn yn dychwelyd mwyach fel athrawes ysgol gynradd ar ôl fy mharlys sydyn oherwydd firws ar linyn y cefn (transverse myelitis) yn 2010. Oherwydd fy sefyllfa bersonol, rwyf wedi bod yn ddibynnol ar staff da i redeg y gwesty, ac rwy’n ymgymryd â’r rôl o drefnu a rheoli oddi-cartref, ac yn galw heibio yn rheolaidd.
Er bod y gwesty yn fodern ac yn chwaethus pan yr agorodd gyntaf, erbyn trosglwyddo’r gwesty i mi roedd angen ei ddiweddaru. Dyma’r ydym wedi ceisio ei wneud (gydag amser ac arian). Rydym yn gyson yn cynllunio’r ardal nesaf i’w hadnewyddu cyn gynted ag y byddwn ni’n gorffen un prosiect.
Rydym wedi ceisio gwrando ar yr hyn y mae ein gwesteion ei eisiau, ac yn gwerthfawrogi’ch sylwadau, canmoliaeth a chwynion. Gellir anfon negeseuon yn uniongyrchol at fy sylw ar fflurfychan@aol.co.uk. Edrychaf ymlaen at glywed gennych chi ac edrychwn ymlaen at groesawu gwesteion i’n gwesty sy’n gwella drwy’r amser.
Diweddariad Mawth 2021
Daeth newidiadau mawr i’r byd yn 2020 oherwydd y Pandemic, a gwnaethom ninnau newidiadau hefyd!! Gwnaethom newid Llety Ceiro o fod yn lle Gwely a Brecwast i Lety Hunan Arlwyo mawr. Mae’r eiddo’n ddelfrydol i grwpiau mawr sydd eisiau dod at ei gilydd wedi’u hamgylchynu gan olygfeydd hardd o’r lolfa fawr, yr ystafell haul a’r ardal eistedd tu allan, neu harddwch a thawelwch eu hystafelloedd gwely. Rydym wedi bod wrth ein bodd gyda’r adborth cadarnhaol gan ein gwesteion, sydd wedi mwynhau eu dathliadau ac amser ynghyd yn Llety Ceiro, ac edrychwn ymlaen at groesawu gwesteion eto i’n Cartref Gwyliau.