






Mid Wales - Coast
Towns & Villages
M93-965
Wedi’i lleoli 4 milltir o’r Gwesty neu tua 10 munud yn y car, mae Aberystwyth yn dref glan môr fawr, sy’n adnabyddus am ei Phrifysgol a’i harddwch eithriadol. Wrth yrru o Bow Street y lle cyntaf y byddwch chi’n ei gyrraedd yw’r Brifysgol ar Riw Penglais, er ei bod yn gampus hyfryd i grwydro, dylai gwesteion sydd eisiau profi peth diwylliant lleol ymweld â Chanolfan Celfyddydau Aberystwyth i weld y dramâu a dangosiadau ffilmiau celfyddydol diweddaraf (mae taflenni gyda’r amserau i’w gweld yn y lobi). Mae amryw gaffis a mannau bwyd ar y campws.
Yn y dref ei hun mae amrywiaeth eang o siopau a bwytai i’w cael ar Y Stryd Fawr. Am argymhellion holwch un o’n staff. Mae Aberystwyth yn ffodus o gael cyfoeth o siopau stryd fawr cyffredinol, ynghyd ag amrywiaeth gyfoethog o fusnesau teuluol a phreifat. Mae’r gorsafoedd trên a bws dafliad carreg o’r brif stryd. Mae amryw gysylltiadau i’w cael yma, er y dylid tynnu sylw at wasanaeth trên stem Rheilffordd Cwm Rheidol i Bontarfynach fel taith â golygfeydd gwych i bawb ei mwynhau.
Yn ystod eich ymweliad, dylech fwynhau cerdded ar hyd y prom Fictorianaidd. Dyma un o’r ffyrdd gorau o fwynhau’r tirlun hyfryd. Mae’r prom yn ymestyn 2km o’r de i’r gogledd ac mae’n ardal boblogaidd iawn i gerdded, yn enwedig yn yr haf. Cofiwch “gicio’r bar” ar ochr ogleddol y prom - hen draddodiad yma yn Aberystwyth. Ar hyd ochr gogleddol y prom y mae The Royal Pier. Yno y mae bar, arcêd, siop doesenni, ystafelloedd snwcer a bwyty ac mae’n sicr yn werth ymweliad. Yn ystod misoedd y gaeaf, mwynhewch olygfa o'r haid drefol fwyaf o ddrudwy - fel arfer rhwng misoedd Tachwedd a Mawrth.
Mae Craig-lais i’w weld ar ochr ogleddol y prom i’r dde o’r Pier wrth i chi wynebu Môr yr Iwerydd. Tua 15 munud ar droed i’r copa mae’n sicr yn werth yr ymdrech i weld golygfa banoramig o’r dref. Mae rheilffordd halio fach i’r top, gyda golygfeydd yn ehangu wrth i chi deithio i fyny - dyma’r rheilffordd clogwyn trydanol gweithiol hiraf ym Mhrydain! Ar ddiwrnod clir gallwch weld copa bron i 28 o fynyddoedd, a hefyd mwynhau’r Camera Obsciwra Fictorianaidd - sy’n cynnig golygfeydd gwych o’r dref.
Ar ben arall y prom y mae Adfeilion Castell Aberystwyth, lle gwych i fwynhau picnic a mwynhau hanes hynafol un o gestyll gwych Cymru. Os ydych chi’n ddigon anlwcus i gyrraedd ar ddiwrnod gwlyb, mae gan Aberystwyth Amgueddfa wych yn hen theatr y Colisëwm.
Dylai teuluoedd sydd eisiau rhywbeth i lenwi’u diwrnod ystyried Parc Fferm Ffantasi ger Llanrhystud. Prin 11 munud yn y car i’r de o Aberystwyth yno fe gewch chi wibgerti, cychod, sw anifeiliaid i’w hanwesi, ardal chwarae i blant a llawer mwy i lenwi’ch diwrnod!
Hen adeilad prifysgol -b http://www.brynuchel.co.uk/uploads/gallery-images/M93-965-A6W_(Medium).jpgGolygfaCraig-lais - http://www.discoverceredigion.co.uk/SiteCollectionImages/Backgrounds/JBXD2127a-web.jpg - http://www.discoverceredigion.co.uk/English/footer/marketing/photogallery/Pages/default.aspx DiscoverCeredigion
Mynedfa’r castell - http://www.castlewales.com/aberstw8.jpg
Canolfan y Celfyddydau - https://www.ourscreen.com/image/11223
Prom – Afon Rheidol - http://www.discoverceredigion.co.uk/English/footer/marketing/photogallery/Pages/default.aspx DiscoverCeredigion
Rheilffordd Craig-lais - http://www.discoverceredigion.co.uk/English/footer/marketing/photogallery/Pages/default.aspx DiscoverCeredigion
Syrffiwr yn Aber - http://www.discoverceredigion.co.uk/English/footer/marketing/photogallery/Pages/default.aspx DiscoverCeredigion