Rhyw 4 milltir o Llety Ceiro neu tua 10 munud yn y car, mae Borth yn gyrchfan glan môr fechan gyda thraeth euraid sydd wedi ennill sawl gwobr sy’n boblogaidd gyda theuluoedd a phlant ifanc, caffis unigryw, detholiad o dafarndai gyda bwytai a Chwrs Golff 18 Twll Borth ac Ynyslas.
Mae Borth yn lleoliad gwych hefyd i’r rheini sy’n mwynhau syrffio – mae Aberystwyth Adventures yn aml yn cynnal gwersi syrffio a hefyd yn cynnig adroddiad syrffio yn ddyddiol.
I deuluoedd sydd eisiau diwrnod allan, rhowch gynnig ar Borth Animalarium lle y mae llu o rywogaethau prin a rhai sydd dan fygythiad i’w gweld. Mae trên yn y Borth hefyd i’r rheini sydd eisiau teithio ymhellach (naill ai i Ganolbarth Lloegr neu gallwch fynd ar y trên Arfordirol i fyny i Ogledd Cymru). Wrth i chi deithio ar hyd traeth y Borth, fe gyrhaeddwch Ynyslas sy’n enwog am ei gwarchodfa natur a’i thwyni tywod unigryw. Cyrchfan boblogaidd i garafanau a gwersylla, mae wybren y nos ar dân â sêr.
Credyd Lluniau
Traeth 1 - http://www.discoverceredigion.co.uk/English/footer/marketing/photogallery/Pages/default.aspx DiscoverCeredigion
Traeth 2 - http://www.discoverceredigion.co.uk/English/footer/marketing/photogallery/Pages/default.aspx DiscoverCeredigion
Cerdded y Clogwyn - https://ruthl.files.wordpress.com/2015/10/16-war-memorial-borth-ruths-coast-walk-in-wales.jpg www.coastalwalker.co.uk Ruth Livingston