Llwybrau Cerdded a Llwybrau’r Arfordir

Llwybr Gogerddan

Llwybr byr, gweddol syml sy’n dechrau gerllaw yng nghoedwig Gogerddan. Mae tua 1.5 milltir/2.4km. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.

Borth-Ynyslas

Taith gerdded gweddol hawdd yn ymestyn o bentref arfordirol Borth ar hyd corsydd Borth ac ymlaen i aberoedd a thwyni tywod Ynyslas. Tua 4.9 milltir/7.9km. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.

Aberystwyth-Borth

Taith gerdded hawdd i gymedrol sy’n ymestyn o dref prifysgol glan môr Aberystwyth, yn ymestyn trwy Fae Clarach ac yn gorffen ym mhentref arfordirol Borth. Mae tua 6.5 milltir/10.6km o hyd ac yn cynnig golygfeydd godidog o fae Ceredigion. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.

Aberystwyth-Llanrhystud

Taith gerdded gweddol anodd a hir o lwybr arfordir Ceredigion. Gan nad oes pentrefi rhwng y llwybrau hyn mae’n bwysig mynd a digon o fwyd/dŵr a dillad cynnes gyda chi. Yn ymestyn o dref prifysgol glan môr Aberystwyth dros glogwyni Penderi ac i bentref glan môr bychan Llanrhystud. Yn ymestyn am tua 10.6 milltir/17km mae’r llwybr hwn yn cynnig her ond yn werth yr ymdrech. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.

Taith Gylchol Bont-goch

Taith gerdded hawdd i gymedrol sy’n dechrau o’r pentref nesaf yn Nhal-y-bont. Tua 4.5 milltir/7.3km i fwynhau’r golygfeydd panoramig y tu hwnt i Nant-y-Moch, gyda chipolwg o Fae Ceredigion a fferm wynt 1998 uwchlaw Tal-y-Bont. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.