Ponterwyd a Phontarfynach

Teifi Valley Railway
Ponterwydd
Stairway
Three bridges
Tree Bridge

previous arrow
next arrow

Tua 11 milltir o’r gwesty a thua 18 munud yn y car, mae Ponterwyd yn bentref bach gyda chysylltiadau hanesyddol cyfoethog â’r Oes Sioraidd. Mae’n lle diddorol i adar-garwyr gan fod y pentref yn gartref i Nant-yr-Arian, canolfan Cyfoeth Naturiol Cymru lle y mae dros 100 o farcudiaid coch yn cael eu bwydo bob dydd! Mae sawl llwybr cerdded o amgylch y ganolfan, caffi, digon o le parcio a pharc bach i’r plant. Os ydych chi’n hoffi beicio mynydd, mae amryw gyrsiau hefyd ar gyfer pob lefel profiad.

Yng nghanol Ponterwyd, mae’r Hen Bont i’w gweld, pont garreg un bwa sy’n dyddio o’r 18fed ganrif.

Tua 3.6 milltir neu 8 munud yn y car i’r de o Bonterwyd, ymwelwch â phentref poblogaidd i dwristiaid Pontarfynach. Ffordd olygfaol hyfryd ac ar ôl cyrraedd y mae dau lwybr natur a’r rhaeadr byd enwog yr ysgrifennodd William Wordsworth amdano “To the Torrent at the Devils Bridge. Mae gan Bontarfynach ystod o gaffis a siopau, ac yno y mae pen siwrnai Rheilffordd Cwm Rheidol. Mae gwesty’r Hafod, sydd newydd ei hadnewyddu, yn cynnig llety ynghyd ag amryw opsiynau gwledda.

Un o brif atyniadau Pontarfynach heb os yw’r 3 pont yng nghanol y pentref. Mae chwedl wych yn gysylltiedig â’r pontydd, y gallwch ei darllen yma: Devil’s Bridge The Legend.