















Mae Llety Ceiro yn lle perffaith i griw mawr ddod at ei gilydd fel teulu neu ffrindiau yng Nghanolbarth Cymru. P’run ai ydych yn cynllunio taith ar hyd llwybr yr arfordir gyda’ch clwb cerdded lleol, neu angen tir canol i ddod a theulu a ffrindiau at ei gilydd, rydym yn sicr bydd ein cartref gwyliau yn berffaith i chi.
Mae gan y lolfa sylweddol seddau cyfforddus i’r grŵp cyfan ddod ynghyd neu gellir gwneud lle ar gyfer gemau a dawnsio.
Mae gan y bar ddigon o wydrau a bwcedi rhew, gydag oergell ac oergell gwin, hefyd offer cymysgu coctels, mae popeth ond y diodydd yna!!
Mwynhewch eich prydiau gyda’ch gilydd yn yr ystafell haul gyda’r haul yn disgleirio yn y dydd, a goleuadau bach yn y nos. Rydym wedi rhoi carferi yn yr ystafell fwyta i gadw’ch bwyd yn gynnes, oergell fach, microdon domestig, tegell a pheiriant coffi i arbed ymdrech unwaith y byddwch wedi setlo i fwyta.
Gellir mwynhau nosweithiau cynnes y tu allan gyda byrddau a chadeiriau i fwyta neu ymlacio allan ar y decing. Mae gennym barbaciw mawr nwy a gwresogydd patio rhag ofn nad yw hi mor gynnes, hefyd mae yna ardal eistedd dan do os yw’n bwrw glaw.
Gall y rhai nad ydynt am fod yn rhan o’r grŵp mawr gamu i mewn i’r ‘cwtch’ i chwarae gêm pêldroed-fwrdd neu wylio DVD.
Mae coginio ar gyfer grŵp mawr mewn cegin broffesiynol yn golygu bod popeth yn fwy ac yn fwy effeithlon, y ffwrn fwy, oergell fwy, rhewgell fwy, microdon cyflym, peiriant golchi llestri cyflym, dŵr berwedig ar unwaith a topiau ‘stainless steel’ hawdd i’w glanhau. Mae digon o offer o bob maint i fwydo eich criw llwglyd.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ofynion arbennig, rydym bob amser yn hapus i helpu.