Llefydd Bwyta Lleol

Aberystwyth

Mae Aberystwyth (10 munud yn y car) yn dref Prifysgol gyda dewis da o lefydd i fwyta gan gynnwys cadwynau megis McDonalds, KFC, Dominos, Startbucks, Costa, Cafe Nero, Subway a Weatherspoon’s.

Tai Bwyta sy’n boblogaidd gyda bobl lleol:

  • Baravin (01970 611189)
  • Byrgyr (01970 624253)
  • Yr Eidal Fach (01970 623338)
  • Medina (01970 358300)
  • Backyard BBQ Pit Stop (07983330738)
  • Le Figaro (01970 624242)

Am frecwast da yng nghanol y dre Aberystwyth:

  • Caesers (01970 611840)
  • Little Devil’s Cafe (01970 611757)

Mae yna ystod eang o Gaffis, Tai Bwyta a llefydd tecawê yn y dre, a buaswn yn eich argymell i fynd ar y we i weld be sy’n mynd â’ch bryd.

Y Borth

Mae Borth (5 munud mewn car) yn bentref glan y môr poblogaidd gyda thraeth eang, sy’n ddelfrydol i fynd am dro beth bynnag yw’r tywydd. Mae yma ddewis o gaffis a thecawês yma yn ystod yr Haf, yn ogystal a thafarndai clyd. Mae ‘Libanus 1877’ yn hen gapel wedi ei addasu yn dŷ-bwyta  uwchben y sinema foethus (01970 871042), Mae yna olygfeydd arbennig o Fae Ceredigion o dŷ-bwyta ‘Parc Carafanau Brynrodyn’. I fwynhau pryd o fwyd ar y traeth ewch am dro i’r ‘Victoria Inn’ (01970 871417)

Talybont

Gan deithio i’r Gogledd (3 munud yn y car) dewch i Dalybont, pentref gyda dwy dafarn: ‘Llew Gwyn’ sy’n cynnig prydiau bar (01970 832245) a’r ‘Blac’ sy’n cynnig bwydlen Bistro (01970 832555).  Hefyd yn y pentref mae Caffi Griff, lle da i’r rhai sy’n hoffi beicio.

Tre’r Ddôl

Ymhellach i’r Gogledd dewch ar draws pentref gyda chaffi a siop ‘Gymunedol Y Cletwr’ (01970 832113) mae yma frecwast o gynnyrch lleol, cinio a chacennau. Mae prydiau bar ar gael yn Y ‘Wildfowler’ (01970 832000).

Os ydych chi’n edrych am Dŷ-bwyta Michelin Star, i fyny’r ffordd yn Eglwys Fach mae tŷ  bwyta Gareth Ward – ‘Ynyshir’  (01654 781209)