
Bow Street
Mae Llety Ceiro o fewn pellter cerdded i Bow Street, pentref tawel gyda dwy dafarn leol, caffi a chanolfan grefftau, cigydd, siop sglodion, garej leol a SPAR.
Darllen mwy
Borth ac Ynyslas
Rhyw 4 milltir o’r cartref gwyliau, mae'r Borth yn gyrchfan glan môr fechan gyda thraeth euraid sydd wedi ennill sawl gwobr ac yn boblogaidd gyda theuluoedd a phlant ifanc, caffis unigryw, detholiad o dafarndai gyda bwytai a chwrs golff.
Darllen mwy
Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref glan môr fawr, sy’n adnabyddus am ei phrifysgol a harddwch eithriadol. Yn ystod eich ymweliad dylech fynd am dro ar hyd y prom. Fe argymhellir hynny fel un o’r ffyrdd gorau o fwynhau’r tirlun prydferth.
Darllen mwy
Cwm Rheidol
Mae Cwm Rheidol yn lle gwych i dreulio diwrnod hamddenol yn edmygu golygfeydd prydferth Cymru. Gyda rhai atyniadau annisgwyl gerllaw a chyfle i wneud gweithgareddau megis pysgota a beicio, mae’n lle perffaith i ymlacio am ddiwrnod.
Darllen mwy
Ponterwyd a Phontarfynach
Mae Ponterwyd yn bentref bach gyda chysylltiadau hanesyddol cyfoethog â’r Oes Sioraidd. Mae’n lle diddorol i adar-garwyr gan fod y pentref yn gartref i Nant-yr-Arian, canolfan CNC lle y mae dros 100 o farcudiaid coch yn cael eu bwydo bob dydd!
Darllen mwy
Machynlleth a Phrosiect Gweilch Dyfi
Wedi’i leoli 20 munud o’r gwesty yn y car, mae Machynlleth yn dref farchnad gyda chymysgedd eclectig o gyfleusterau a llawer o siopau creiriau a siopau â pherchnogion lleol. Ymwelwch ar ddydd Mercher i fwynhau bwrlwm y farchnad.
Darllen mwy
Llwybrau Cerdded a Llwybrau’r Arfordir
Rydym yn ffodus ein bod wedi ein hamgylchynu gan ystod o lwybrau cerdded, gan gynnwys Llwybr Arfordir Cymru a llwybr Cylchol Bont Goch. Byddai'n werth i chi fynd a phecyn bwyd gyda chi i dreulio’r diwrnod yn crwydro ein mynyddoedd.
Darllen mwy