Grwpiau & Hunan Ddarparu

Archebion Grŵp / Y Gwesty Cyfan

Rydym yn derbyn unrhyw archebion grŵp neu bartïon mawr yn Llety Ceiro yng Nghanolbarth Cymru fel tŷ gwyliau. Gyda digon o ardaloedd cymunedol, gall y gwely a brecwast fod yn lle perffaith i deuluoedd mawr ddod ynghyd, neu’n encil gwledig hyfryd. P’un a ydych chi’n cynllunio taith ar hyd ein llwybrau arfordirol lleol gyda’ch clwb cerdded neu eisiau rhywle canolog i ddod â theulu a ffrindiau ynghyd, rydym yn hyderus y byddai ein gwesty yn berffaith ar eich cyfer chi. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gais arbennig, gan y gallwn fod yn hyblyg iawn a bob amser yn barod i helpu.

Rydym yn agored i chi archebu’r gwesty cyfan at eich defnydd chi gyda grwpiau o rhwng 10-26 o bobl. Gyda defnydd unigryw o’r ystafell haul, ystafell fwyta a bar i’ch gwesteion ymgasglu ynddynt.

  • Gellid trefnu pecynnau ar gyfer swper, gwely a brecwast a phecynnau cinio.
  • Rydym yn cynnig amryw ddigwyddiadau a bwffes sydd i’w gweld yn ein hadran digwyddiadau.
  • Hunanarlwyo h.y. mae defnydd o’r gegin neu logi cogydd preifat yn opsiynau sydd ar gael hefyd.
  • Gallai grwpiau mwy, grwpiau sy’n aros am sawl noson neu grwpiau sy’n trefnu digwyddiad a sawl ystafell wely fod â’r hawl i amryw ostyngiadau ar brisiau ystafell. Ffoniwch yn uniongyrchol i drafod.

Nadolig / Blwyddyn Newydd

Ydych chi ffansi cael criw ynghyd y Nadolig hwn ond nad oes gennych chi le sy’n ddigon mawr i bawb? Efallai’ch bod chi eisiau eich lleoliad eich hun i ddianc gyda ffrindiau i ddathlu’r Flwyddyn Newydd. Cewch eich synnu ar ba mor fforddiadwy fyddai treulio amser gyda’ch ffrindiau/teulu!

  • Yn ystod cyfnod 20 Rhagfyr – 5 Ionawr mae’n bleser gennym gynnig pris arbennig am rentu’r gwesty cyfan i grŵp teulu/ffrindiau ei ddefnyddio.
  • Mae hyn yn cynnwys defnydd ar y gegin, ardal bar/lolfa, ystafell haul, ardal dec/eistedd awyr agored, 11 ystafell wely (am wybodaeth bellach am yr ystafelloedd sydd ar gael cliciwch yma)
  • Nid yw stoc y bar wedi’i gynnwys yn y pris cychwynnol. Serch hynny, ar gais a thrafodaeth, gellir trefnu taliad ychwanegol am hyn.
  • Gellir trafod y pris ac mae sawl cyfnod ar gael yn ystod yr Ŵyl, ffoniwch ni yn uniongyrchol neu anfonwch e-bost am ragor o wybodaeth.