Ystafelloedd

  • Mae’r prisiau gorau ar gael trwy ein ffonio ni’n uniongyrchol
  • Mae pris pob ystafell yn cynnwys brecwast, mae opsiwn ystafell yn unig ar gael am ostyngiad o £5 yr ystafell. Mae’r brecwast yn cynnwys: Grawnfwydydd, Coctêl Florida (Grawnffrwyth, Mandarin, Pin Afal), Sudd Afal ac Oren, Te/Coffi/Diodydd Llysieuol (Di-gaffein ar gael) ac Iogyrtiau. Yna detholiad o eitemau Brecwast Cymreig Llawn a/neu uwd sydd i’w gweld ar ein bwydlen.
  • Mae dewisiadau Llysieuol/Diet Amgen ar gael.
  • Bar trwyddedig a lolfa ar gael i westeion
  • Ni allwn gynnig swper gyda'r nos ar hyn o bryd, serch hynny fe all y dderbynfa argymell bwytai a thafarndai lleol – neu mae croeso i chi ddod â’ch prydau eich hunain i’w bwyta yn y bar neu’r ystafell haul.
  • Mae Wi-Fi am ddim ar gael trwy’r eiddo.
  • Mae digon o le parcio ar gael gan gynnwys dau le anabl sy’n agos at y fynedfa. Mae parcio am ddim i’n holl gwsmeriaid.
  • Cyfleusterau gwneud te/coffi a thywelion/taclau ymolchi ar gael ym mhob ystafell.
  • Mae’n bleser gennym gynnig amryw hanfodion am ddim i’n holl westeion. Maen nhw i’w cael yn y dderbynfa. Am restr o’r cynnyrch sydd ar gael cliciwch yma.
  • Mae gostyngiad ar gael i un person ddefnyddio ystafelloedd dwbl neu efell.
  • Rydym wrth ein bodd ag anifeiliaid ac yn eu croesawu! Serch hynny, codir tâl o £5 y noson am bob anifail. Am wybodaeth bellach am y rheolau, darllenwch yma.
  • Mae ein holl westeion o bwys i ni, ac am y rheswm hwn byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi’n dychwelyd. Rydym yn cynnig gostyngiad o 10% yn y pris i gwsmeriaid sy’n dychwelyd. Ffoniwch i holi am hyn.
  • Gallwn drefnu gosod gwely bach ychwanegol yn rhai o’r ystafelloedd am gost ychwanegol, ffoniwch yn uniongyrchol i holi
Darllen am ein ystafell Dwbl Moethus

Dwbl Moethus

Gyda gwelyau maint Brenhines, teledu mwy a bath/cawod sba gallwch ymlacio wedi diwrnod prysur yn ein hystafelloedd dwbl moethus eang a golau.

Darllen am ein ystafell Gefell Moethus

Gefell Moethus

Mae dau wely sengl, teledu mwy a chyfleusterau bath/cawod sba ensuite yn golygu bod yr ystafell hon yn gartref perffaith i ddau sy’n hoffi crwydro

Darllen am ein ystafell Dwbl Hygyrch

Dwbl Hygyrch

Mae’r ystafell hon yn ystafell berffaith i’r rheini sy’n chwilio am gysur a hygyrchedd heb aberthu ar yr esthetig na’r gwerth am arian.

Darllen am ein ystafell Driphlyg

Ystafell Driphlyg

Ystafelloedd o faint canolig gyda lle cerdded, wedi’u cyfarparu â gwely dwbl, gwely sengl a chyfleusterau Cawod Ensuite.

Darllen am ein ystafell Ddwbl

Ystafell Ddwbl

Ystafell gweddol fawr gydag awyrgylch bleserus, digon o le i’r bagiau, gwely maint brenhines a chawod ensuite.

Darllen am ein ystafell Deuluol

Ystafell Deuluol

Gwely maint brenhines, set o welyau bync cadarn ond ffasiynol. Teledu mwy a Jacwsi en-suite. Yn berffaith i hyd at 4 o bobl.

Darllen am ein ystafell Gefell

Ystafell Gefell

Ystafell safonol gyda dau wely sengl a chyfleusterau cawod ensuite sy’n golygu bod yr ystafell hon yn berffaith i amrywiaeth eang!

Polisi Plant a Phlentyn Ychwanegol:

Croesawir pob plentyn. Gall pob plentyn iau na 2 oed aros yn rhad ac am ddim mewn cotiau i blant. Y nifer uchaf o welyau ychwanegol fesul ystafell yw 1.

Polisi Blaendal:

Ni chodir blaendal.

Polisi Anifeiliaid Anwes:

Croesawir anifeiliaid anwes da mewn ystafelloedd penodol, ond byddwn yn codi £5 fesul anifail.
Gofynnwn i berchnogion ddod â gwely i’w hanifeiliaid anwes, a disgwyliwn i’r anifeiliaid beidio â gorwedd ar y gwelyau a’r dodrefn.
Ni chaniateir anifeiliaid yn yr ystafell frecwast, ond gellir paratoi bwrdd yn ardal y bar ar gyfer gwesteion gydag anifeiliaid anwes.

Polisi Canslo:

Os bydd archeb yn cael ei chanslo neu ei haddasu hyd at 1 diwrnod cyn y dyddiad cyrraedd, ni chodir ffi. Os bydd yn cael ei chanslo neu’i haddasu yn ddiweddarach neu os na fyddwch yn cyrraedd, codir 100 y cant o’r noson gyntaf.

Gellir canslo archebion hyd at 1 diwrnod cyn 20:00 y diwrnod cyrraedd yn rhad ac am ddim. Bydd archebion sy’n cael eu canslo llai na 1 diwrnod cyn 20:00 y diwrnod cyrraedd yn gorfod talu 100% o gyfanswm yr archeb.

Os oes angen i chi ganslo neu wneud newidiadau i’r archeb hwn, cysylltwch â’r darparwr llety yn uniongyrchol ar: lletyceiro@hotmail.com, neu 01970 821900.