





Wedi’i lleoli 20 munud i'r Gogledd o Llety Ceiro yn y car, Machynlleth yw hen brifddinas Cymru, ac yn dref farchnad adnabyddus gyda chymysgedd eclectig o gyfleusterau, llawer o siopau creiriau a siopau â pherchnogion lleol. Ymwelwch ar ddydd Mercher i fwynhau bwrlwm y farchnad - marchnad sydd wedi’i chynnal bob wythnos ers bron i 700 mlynedd! I gael hwb diwylliannol ymwelwch â’r Amgueddfa Celf Fodern a dylai selogion Hanes ymweld â Chanolfan Owain Glyndŵr (adeilad seneddol cyntaf Cymru). Yn ystod penwythnos Gŵyl Banc Mai mae’r dref yn cynnal Gŵyl Gomedi Machynlleth sy’n enwog trwy’r DU fel profiad penwythnos gwych.
Wrth deithio rhwng Llety Ceiro a Machynlleth gallwch fwynhau golygfeydd godidog o Aber Afon Dyfi, ac i adar-garwyr dylech yn sicr ymweld â Gwarchodfa RSPB Ynyshir a Phrosiect Gweilch Dyfi.
Mae Prosiect Gweilch Dyfi yn benodol yn lleoliad gwych i weld y warchodfa a’r gweilch o ddiwedd mis Mawrth hyd at fis Medi. Yn addas i deuluoedd a chadeiriau olwyn hefyd, gellir treulio oriau yn gwylio’r gweilch o’r Arsyllfa 360 - gallwch fwynhau'r ffrwd fyw ar wefan Gweilch Dyfi, a gwylio’r ddrama ddiweddaraf gan ein teulu gweilch Cymreig.
Mae Dyffryn Dyfi yn enwog am ei llwybrau a chystadlaethau beicio mynydd. I’r gogledd o Fachynlleth y mae’r Ganolfan Dechnoleg Amgen, canolfan ar gyfer ffyrdd adnewyddadwy a chynaliadwy o fyw, ynghyd â’r hyfryd Reilffordd Stêm Corris.