Bow Street

Mae Llety Ceiro o fewn pellter cerdded i Bow Street, pentref tawel gyda dwy dafarn leol, Tafarn Rhyd-Y-Pennau nid nepell ar droed, caffi a chanolfan grefftau, cigydd, siop sglodion, garej leol a SPAR i’ch holl anghenion.

Gellir cyrraedd Bae Clarach trwy Bow Street. Mae tua 4 milltir i ffwrdd neu 11 munud yn y car. Mae’n ddargyfeiriad bach braf ar eich ffordd i Aberystwyth. Mae Clarach yn adnabyddus am ei barciau carafán a bae prydferth gyda golygfeydd godidog. Mae’n atyniad poblogaidd i dwristiaid a theuluoedd sy’n mwynhau gwyliau glan môr. Mae gan y pentref gwyliau rai atyniadau difyrrwch a hamdden.